Amcan y gyfrol hon yw cloriannu a chydnabod cyfraniad Hywel Teifi Edwards i'r broses bwysig o ddiffinio anian ac athrylith perfformiadol cenedl y Cymry. Mae hwn yn ymgais arloesol i ddathlu cyfraniad Edwards i faes nas cloriannir yn benodol mewn un cyfraniad canolog ganddo.
Mae Perfformio'r Genedl yn gyfrol sy'n cloriannu a chydnabod cyfraniad Hywel Teifi Edwards i'r broses bwysig o ddiffinio anian ac athrylith perfformiadol cenedl y Cymry. Dyma ymgais arloesol i ddathlu cyfraniad Edwards i faes nas cloriannir yn benodol mewn un cyfraniad canolog ganddo, ond sydd yn brigo i'r wyneb drwyddi draw mewn ystod eang o'i weithiau unigol. Archwilir nifer o agweddau gwahanol ar waith y gellid ei uno o dan bennawd cyffredinol - sef astudiaeth o'r perfformiadol yng nghyd-destun twf cysyniad o hunaniaeth genedlaethol Cymru, o'r ddeunawfed ganrif hyd at y presennol. Mae'r gyfrol yn canoli ar themau amrywiol yng ngwaith Edwards, megis Pasiant Cenedlaethol Cymru, yr Eisteddfod Genedlaethol, traddodiadau'r Orsedd, y drafodaeth o ddramau cynnar y mudiad drama, a'r dogfennu ar weithgaredd cwmniau drama amatur. Dadleuir bod modd cysylltu'r amryw themau yn ei waith a'u trafod yng nghyd-destun astudiaeth o'r anian perfformiadol yng nghyfansoddiad y Cymry.
Rhagymadrodd Golygydd y Gyfrol - Anwen JonesYmlaen mae Canaan: Dyfodoldeb yn Hanesyddiaeth y Theatr Gymraeg - Gareth EvansCodi'r Llen, Ffotograffiaeth a Hanesyddiaeth 'Annheyrngar' Hywel Teifi Edwards - Roger OwenCadwraeth a Chynnydd yn y Mudiad Drama Cymraeg - Ioan WilliamsChwarae Rhan yng nghynhyrchiad Nghymru Fydd - M. Wynn ThomasPerfformio cenedl y dychymyg: Iolo Morganwg a dechreuadau Gorsedd y Beirdd - Cathryn Charnell-WhiteYr Eisteddfod yng ngweithiau Hywel Teifi Edwards: parth ymreolaethol dros dro? - Rowan O'NeillCelfyddydau perfformiadol Cymru: Hanes newydd, Hanesyddiaeth newydd: Hywel Teifi Edwards a Phasiant Cenedlaethol Cymru, 1909. - Anwen JonesMynegai
'Dyma gyfrol arloesol ac amheuthun sy'n cynnig cyfres o ymatebion ysgolheigaidd i waith Hywel Teifi Edwards, ac sy'n ehangu'r drafodaeth ar astudiaethau theatr a pherfformiad yn Gymraeg. Tra bod gwaith Edwards yn wybyddus iawn ym maes y Gymraeg, dyma'r llyfr cyflawn cyntaf i hawlio pwysigrwydd ac arwyddocad i'w waith i astudiaethau theatr a pherfformiad yn benodol.' - Dr Lisa Lewis, Prifysgol De Cymru